Croeso I WELSH-L! Gobeithiwn y byddwch yn mwyhau'r drafodaeth ar y rhestr hon ag y byddwch eisiau ymuno yn y sgwrs. Ers Tachwedd 1992 mae WELSH-L wedi cynnig fforwm i Gymry Cymraeg a dysgwyr mwy rhugl gael cwrdd drwy'r Rhyngrwyd.
Sylwch mai Cymraeg (neu Lydaweg neu Gernyweg) yw iaith WELSH-L. Derbynnir erthyglau Saesneg (neu Ffrangeg) os ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol ag un o'r ieithoedd Celteg hyn (ee. cwestiynnau gramadeg). O fewn y canllawiau hyn, caiff y sgwrs fod ar unrhyw bwnc o ddewis y tanysgrifwyr.
Os mai eich dyhead yw i bostio (a darllen) Saesneg, neu i ddechrau dysgu Cymraeg, yna mae'n debyg y byddai un o'r canlynol yn eich gwasanaethu'n well:
a) Grw+p newyddion soc.culture.welsh
b) Y rhestr i ddysgwyr Cymraeg: CYMRAEG-L
I danysgrifio i CYMRAEG-L, danfonwch neges i:
listproc@lists.missouri.edu
Gan ddweud: subscribe CYMRAEG-L [eich-cyfeiriad eich-enw]
Er enghraifft: subscribe CYMRAEG-L diana@oseda.missouri.edu Diana Hammond
c) CELTIC-L, y rhestr trafod diwylliant Celtaidd (Saesneg ei hiaith)
I danysgrifio i CELTIC-L, danfonwch neges i:
listserv@listserv.hea.ie
Gan ddweud: subscribe CELTIC-L [eich-enw]
Er enghraffit: subscribe CELTIC-L Diana Hammond
a) Gwefan WELSH-L: http://www.smo.uhi.ac.uk/liosta/welsh-l/
b) Mae negeseuon WELSH-L ar gael ar y we+ (gydag archif chwiliadwy):
c) Gellid cael llawer o wybodaeth am Gymru a phopeth Cymreig yn COF (Cwestynnau a Ofynnir yn Fynych):
ch) Cwrs Cymraeg Mark Nodine ar gyfer ddysgwyr newydd:
d) Tudalen Sami Laitala o adnoddau Cymreig:
dd) Tudalen Neil Sands:
e) Tudalen we+ CYMRAEG-L:
f) ....digonedd o dudalenni eraill ar y we+. Gormod i'w rhestru yma.
Byddwch wedi derbyn ffeil yn cynnwys y manylion gweinyddol ar gyfer WELSH-L gan y meddalwedd Listserv sy'n rheoli WELSH-L. Mae'n syniad da i gadw'ch gafael ar y ffeil hon fel eich bod yn gallu cyfathrebu a'r Listserv yn y dyfodol. Os ydych wedi'i ddileu yn barod, dyma grynodeb o'r gorchmynion mwya defnyddiol - peidiwch a'i golli!
Danfonwch y gorchmynion i: listserv@listserv.hea.ie (hy. ddim i WELSH-L).
Rhowch y gorchmynion, un i bob llinell, yng nghorff y neges (hy. lle y byddwch yn teipio'ch neges fel arfer, nid yn y llinell Subject:)
Os nad ydych yn gyfarwydd a+ defnyddio meddalwedd Listserv, yno mae'n syniad da i ddarllen y ffeiliau LISTSERV REFCARD a LISTSERV GENINTRO, a ellid eu derbyn drwy ddanfon y gorchmynion canlyol i listserv@listserv.hea.ie
INFO REFCARD
INFO GENINTRO
Mae negeseuon WELSH-L yn cael eu harchifio yn fisol. I dderbyn archif yn
cynnwys mis cyfan o negeseuon, danfonwch y canlynol i
listserv@listserv.hea.ie:
GET
WELSH-L LOG9709
(mae hwn yn danfon archif Medi 1997 - hy. WELSH-L LOG
[blwyddyn] [mis]).
I ddanfon neges i WELSH-L i gael ei dosbarthu i'r tanysgrifwyr eraill,
danfonwch y neges i:
welsh-l@listserv.hea.ie
Y gorchmynion
sydd eu hangen i newid y dewisiadau hyn yw:
SET WELSH-L NOREPRO
SET WELSH-L NOACK
Gallwch gysylltu a'r perchnogion gyda'r cyfeiriad: welsh-l-request@listserv.hea.ie
Gellid defnyddio'r cyfeiriad uchod pan nad yw'r meddalwedd Listserv yn ddigonol i'ch gofynnion.