Rhydcymerau

 

Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed

A' u  gwreiddiau haerllug yn sugno'r hen bridd

Coed lle bu cymdogaeth

Fforest lle bu ffermydd

Bratiaith Saeson y De lle bu barddoni a diwinydda

Cyfarth cadnoid lle bu cri plant ac wyn

Ac yn y tywyllwch yn ei chanol hi

Y mae ffau' r Minatawros Seisnig

Ac ar golfenni, fel ar groesau

Ysgerbydau beirdd, blaenoriad, gweinidigion ac athrawon ysgol Sul

Yn gwynnu yn yr haul

Ac yn cael eu golchi gan y glaw a'u sychu gan y gwynt