Pwyll Pendeuic Dyuet

Pwyll Pendeuic Dyuet a oed yn arglwyd ar seith cantref Dyuet. A threigylgweith yd oed yn Arberth, prif lys idaw, a dyuot yn y uryt ac yn y uedwl uynet y hela. Sef kyueir o'y gyuoeth a uynnei y hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya ac yno y bu y nos honno.

 

A thrannoeth, yn ieuengtit y dyd, kyuodi a oruc a dyuot y Lynn Cuch i ellwng e gwn dan y coet. A chanu y gorn a dechreu dygyuor yr hela, a cherdet yn ol y cwn, ac ymgolli a'y gydymdeithion. Ac ual y byd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a glywei llef erchwys arall, ac nit oedynt unllef, a hynny yn dyuot yn erbyn yr erchwys ef. Ac ef a welai lannerch yn y coet. o uaes guastat; ac ual yd oed yr erchwys ef yn ymgael ac ystlys y llannerch, ef a welai carw o ulaen yr erchwys arall. A pharth a pherued y llannerch llyma yr erchwys a oed yn y ol yn ymordiwes ac ef, ac yn y uwrw y'r llawr.

Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o'r welsei ef o helgwn y byt, ny welsei cwn unlliw ac wynt. Sef lliw oed arnunt, claerwen llathreit, ac eu clustiau yn gochyon. Ac ual y llathrei wynnet y cwn, y llathrei cochet y clusteu. Ac ar hynny at y cwn doeth ef, a gyrru yr erchwys a ladyssei y carw e ymdeith, a llithyaw y erchwys e hunan ar y carw.

Seann Cuimris - Cuimris an là an-diugh - Gàidhlig